Rheoliad 2(4)
ATODLEN 4Safonau Cadw Cofnodion
RHAN 1Y SAFONAU
1 | Safonau ynghylch cadw cofnodion gan gorff |
Safon 141: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau. |
Safon 142: | Rhaid ichi ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
Safon 143: | Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg (pa un ai yw’r gŵyn yn ymwneud â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio). |
Safon 144: | Rhaid ichi gadw cofnod o’r camau yr ydych wedi eu cymryd i sicrhau y cydymffurfir â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
Safon 145: | Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau iaith Gymraeg eich cyflogeion a wnaed gennych yn unol â safon 123), o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny. |
Safon 146: | Rhaid ichi gadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o— (a) nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a ddarparwyd yn Gymraeg (yn unol â safon 124), a (b) os darparwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn unol â safon 124, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y fersiwn honno o’r cwrs. |
Safon 147: | Rhaid ichi gadw cofnod o bob asesiad a gynhaliwch (yn unol â safon 132) mewn cysylltiad â’r sgiliau Cymraeg y gallai fod eu hangen mewn perthynas â swydd newydd neu swydd wag. |
Safon 148: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 132) fel swyddi sy’n gofyn— (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. |
RHAN 2DEHONGLI’R SAFONAU
2 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
3 | At ddibenion safonau 141, 145, 146 a 148, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun. |