Rheoliad 2(4)

ATODLEN 4Safonau Cadw Cofnodion

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch cadw cofnodion gan gorff
Safon 141:Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau.
Safon 142:Rhaid ichi ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
Safon 143:Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg (pa un ai yw’r gŵyn yn ymwneud â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio).
Safon 144:Rhaid ichi gadw cofnod o’r camau yr ydych wedi eu cymryd i sicrhau y cydymffurfir â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
Safon 145:Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau iaith Gymraeg eich cyflogeion a wnaed gennych yn unol â safon 123), o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny.
Safon 146:

Rhaid ichi gadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o—

(a)

nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a ddarparwyd yn Gymraeg (yn unol â safon 124), a

(b)

os darparwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn unol â safon 124, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y fersiwn honno o’r cwrs.

Safon 147:Rhaid ichi gadw cofnod o bob asesiad a gynhaliwch (yn unol â safon 132) mewn cysylltiad â’r sgiliau Cymraeg y gallai fod eu hangen mewn perthynas â swydd newydd neu swydd wag.
Safon 148:

Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 132) fel swyddi sy’n gofyn—

(a)

bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol;

(b)

bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd;

(c)

bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu

(ch)

nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.

RHAN 2DEHONGLI’R SAFONAU

2Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
3At ddibenion safonau 141, 145, 146 a 148, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun.