Rhagolygol
Enwi a chychwynLL+C
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)
Dirymiadau a datgymhwysoLL+C
2.—(1) Mae’r Rheoliadau a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob un ohonynt yn y drydedd golofn.
(2) Mae’r Rheoliadau a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 wedi eu datgymhwyso o ran Cymru i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob un ohonynt yn y drydedd golofn.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)
Diwygiadau canlyniadolLL+C
3. Mae Atodlen 3 (sy’n gwneud diwygiadau o ganlyniad i ddarpariaethau’r Ddeddf) yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)
Arbedion a darpariaeth drosiannolLL+C
4. Mae Atodlen 4 (sy’n gwneud arbedion a darpariaeth drosiannol) yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2016