NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) ac adrannau 195(6) a 201 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

Mae rheoliad 2 yn darparu ar gyfer dirymu is-ddeddfwriaeth Cymru yn unig (Atodlen 1) a datgymhwyso o ran Cymru is-ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr (Atodlen 2) a wnaed o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau mewn deddfwriaeth sylfaenol sydd wedi eu diddymu o ganlyniad i gychwyn Deddf 2014.

Mae rheoliad 3 yn cyflwyno Atodlen 3 sy’n nodi’r diwygiadau canlyniadol a chysylltiedig i is-ddeddfwriaeth sy’n ofynnol o ganlyniad i gychwyn Deddf 2014 ac, mewn un achos, o ganlyniad i gychwyn diddymu adran 7B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 yn Atodlen 14 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

Mae 3 rhan i Atodlen 3. Mae Rhan 1 yn ymdrin â diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio, at amrywiol ddibenion, at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu o ganlyniad i gychwyn Deddf 2014. Mae Rhan 2 yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at unrhyw is-ddeddfwriaeth arall sy’n cael ei dirymu neu ei datgymhwyso gan Atodlenni 1 a 2 i’r Rheoliadau hyn. Mae Rhan 3 yn gwneud diwygiadau i destun is-ddeddfwriaeth sydd i gael ei datgymhwyso’n diriogaethol o ran Cymru, ond sy’n parhau i fod yn gymwys o ran Lloegr.

Mae rheoliad 4 yn cyflwyno Atodlen 4 sy’n gwneud arbedion a darpariaeth drosiannol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd