xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rhagolygol
110. Yn rheoliad 3 (eithriad i reoliad 2(2)) paragraff (3)(a) o Reoliadau’r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009(1)—
(a)ym mharagraff (i) yn lle “adran 22(1) o Ddeddf 1989” rhodder “adran 74(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”;
(b)yn lle paragraff (ii) rhodder y canlynol—
“(ii)sy’n berson ifanc categori 2 o fewn ystyr adran 104(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,”;
(c)yn lle paragraff (iii) rhodder y canlynol—
“(iii)sy’n gymwys i gael cyngor a chynhorthwy o dan adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i’r graddau y mae’r adran honno yn ymwneud â phersonau ifanc categori 5 a 6 o fewn ystyr y Ddeddf honno,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 110 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)
O.S. 2009/1511 (Cy. 147), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.