xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
169.—(1) Mae rheoliad 2 (dehongli) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r diffiniad o “eiriolwr” rhodder y canlynol—
“ystyr “eiriolwr” (“advocate”) yw person sy’n darparu cymorth o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 178(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;”.
(3) Yn y diffiniad o “person annibynnol” yn lle “adran 26(4) o Ddeddf 1989” rhodder “adran 174(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”.
(4) Yn lle’r diffiniad o “sylwadau” rhodder y canlynol—
“ystyr “sylwadau” (“representations”) yw sylwadau a wneir o dan adran 174 neu 175 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu baragraff 6(2) o Atodlen 7 i Ddeddf 1989;”.