ATODLEN 3

RHAN 1Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996I117

1

Mae Atodlen 3 (symiau sydd i gael eu diystyru wrth benderfynu ar incwm ac eithrio enillion) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff 23—

a

hepgorer “, as the case may be,”;

b

ar ôl “the Social Work (Scotland) Act 1968” mewnosoder “or, as the case may be, section 81 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.

3

Ym mharagraff 24—

a

hepgorer is-baragraff (d);

b

ar ddiwedd is-baragraff (e) hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder “; or”;

c

ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder y canlynol—

f

the person concerned where the payment is for provision of accommodation to meet that person’s needs for care and support arranged pursuant to section 35 or 36 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014.

4

Ym mharagraff 25 ar ôl “to certain children)” mewnosoder “, or section 37 or 38 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 but excluding any direct payments under that Act.”.

5

Ym mharagraff 59 ar ôl “Health and Social Care Act 2001 (direct payments)” mewnosoder “or sections 50 to 53 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (direct payments)”.