xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rhagolygol

ATODLEN 3LL+C

RHAN 1LL+CDiwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014

Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014LL+C

170.—(1Mae rheoliad 3 (egwyddorion cyffredinol ar gyfer trin sylwadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (1) rhodder y canlynol—

(1) Rhaid gweithredu unrhyw weithdrefn sylwadau a sefydlir o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn unol â’r egwyddor, pan fo sylwadau yn cael eu gwneud gan berson ifanc categori 2 neu 3, neu o dan adran 174(3)(a) o’r Ddeddf honno, y dylai lles y person sy’n gwneud y sylwadau gael ei ddiogelu a’i hybu..

(3Ar ôl paragraff (2) mewnosoder y canlynol—

(3) Ym mharagraff (1) mae i “person ifanc categori 2 neu 3” yr ystyr a roddir yn adran 104(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014..

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 170 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)