ATODLEN 3

RHAN 1Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014

Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014I1174

Mae rheoliad 25 (dehongli) paragraff (2) o Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 201494 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

a

yn is-baragraff (e) ar ôl “adran 23 o Ddeddf Plant 1989” mewnosoder “neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”;

b

yn is-baragraff (f) ar ôl “dibynnydd o dan adran” mewnosoder “110(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu, yn ôl y digwydd, adran”;

c

yn is-baragraff (g) ar ôl “yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno” mewnosoder “neu adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys i bersonau ifanc categori 5 a 6 o fewn ystyr y Ddeddf honno”.