Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000

32.—(1Mae rheoliad 6 (swyddogaethau’r awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig ag iechyd) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (a)—

(a)yn lle “Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol 1970” rhodder “Atodlen 2 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”;

(b)yn lle is-baragraff (i) rhodder y canlynol—

(i)adrannau 34(1)(a) (i’r graddau y mae’n ymwneud â diwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn), 59, 63, 66, 70(5), 121, 144, 171 a 172 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;;

(c)hepgorer is-baragraff (ii);

(d)ar ddiwedd is-baragraff (iv) mewnosoder “a”;

(e)hepgorer is-baragraff (v) (ynghyd â’r “a” sy’n ymddangos yn union ar ôl yr is-baragraff);

(f)yn is-baragraff (vi) hepgorer “ac adran 86”.

(3Ym mharagraff (b) yn lle “adrannau 7 neu 8” rhodder “adran 7”.

(4Ar ôl paragraff (b) mewnosoder y canlynol—

(ba)y swyddogaethau o dan Rannau 3 a 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i’r graddau y maent yn ymwneud â’r ddyletswydd i asesu a diwallu anghenion gofalwyr anabl mewn perthynas â gallu’r gofalwr i ddarparu gofal;.