Rhagolygol
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002LL+C
45. Yn rheoliad 2 (dehongli) paragraff (1) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(1), yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—
(a)yn y testun Saesneg, yn lle’r diffiniad o “fostering arrangements” rhodder—
“fostering arrangements” (“trefniadau maethu”) means arrangements made by, or on behalf of, a local authority under section 81 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 or by a voluntary organisation under section 59(1)(a) of the Children Act 1989, or arrangements made by a local authority or voluntary organisation under legislation similar to section 81 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 or (as the case may be) section 59(1)(a) of the Children Act 1989;”; a
(b)yn y testun Cymraeg yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “trefniadau maethu” (“fostering arrangements”) yw trefniadau a wneir gan awdurdod lleol neu ar ei ran o dan adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu gan sefydliad gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf Plant 1989, neu drefniadau a wneir gan awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol o dan ddeddfwriaeth sy’n debyg i adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu (yn ôl y digwydd) adran 59(1)(a) o Ddeddf Plant 1989;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 45 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)
O.S. 2002/324 (Cy. 37), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.