ATODLEN 3

RHAN 1Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014

Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006I170

Yn rheoliad 7A (ymchwiliwr annibynnol) o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 200641 ym mharagraffau (3)(b), (5)(a) a (5)(c)(i) yn lle “chanllawiau a ddyroddwyd o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970” rhodder “chod a ddyroddwyd o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”.