ATODLEN 3

RHAN 1Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

83.

(1)

Mae Atodlen 1 (y tramgwydd o fethu â symud ymaith faw ci) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ym mharagraff 1(3) yn lle’r geiriau o “fel person dall” i “Deddf Cymorth Gwladol 1948” rhodder “fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”.

(3)

Ym mharagraff 3, yn lle erthygl 3(2)(a) o Ffurf y Gorchymyn rhodder y canlynol—

“(a)

sydd wedi’i gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu”.