ATODLEN 3

RHAN 1Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014

Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007I185

Yn rheoliad 9 (achosion gwarchod oedolion) paragraff (5) o Reoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 200749 yn lle “chanllawiau a ddyroddir dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970.” rhodder “chod a ddyroddir dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.”.