ATODLEN 3

RHAN 1Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014

Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 200795

Yn rheoliad 2 (dehongli) paragraff (1)—

a

hepgorer y diffiniad o “Bwrdd Lleol Diogelu Plant”, a

b

yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “Bwrdd Diogelu Plant” (“Safeguarding Children Board”) yw bwrdd a sefydlwyd o dan adran 134 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;