Rheoliad 4

ATODLEN 4Arbedion a darpariaeth drosiannol

Arbedion a darpariaeth drosiannol mewn perthynas ag adolygiadau ymarfer plant

1.—(1Er gwaethaf dirymu Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ac Atodlen 1 iddynt, bydd Rheoliadau 2006 yn parhau i fod yn gymwys i adolygiadau ymarfer plant sydd wedi eu cychwyn ond nad ydynt wedi eu cwblhau yn union cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym ond gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)mae rheoliad 4A(5)(ng) wedi ei addasu fel ei bod yn ofynnol i’r Bwrdd roi copi o’r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer plant a’r cynllun gweithredu i’r Bwrdd Cenedlaethol;

(b)mae rheoliad 4A(5)(j) wedi ei addasu fel ei bod yn ofynnol hefyd i’r Bwrdd anfon yr adroddiad ar ôl unrhyw adolygiad cynnydd i’r Bwrdd Cenedlaethol.

(2Yn y paragraff hwn—

mae i “Bwrdd” (“Board”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2006;

ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gael ei sefydlu gan adran 132 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.