NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i gychwyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).

Mae Deddf 2014 yn disodli, o ran Cymru, y ddarpariaeth a wnaed yn flaenorol gan Ran 3 o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) ac Atodlen 2 iddi.

Mae’r pwerau o fewn Deddf 2014 wedi eu harfer (yn bennaf drwy ddefnyddio’r pwerau o fewn Rhan 6 o’r Ddeddf honno (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya)) i wneud Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”). Mae Rheoliadau 2015 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio gofal a materion cysylltiedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, hynny yw, ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (pa un a ydynt yng ngofal yr awdurdod hwnnw yn rhinwedd gorchymyn gofal o dan adran 31 o Ddeddf 1989 ai peidio).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol a chysylltiedig i is-ddeddfwriaeth sy’n ofynnol o ganlyniad i gychwyn Deddf 2014 a gwneud Rheoliadau 2015 drwy arfer y pwerau o fewn Rhan 6 o Ddeddf 2014. Mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei diwygio gan y Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth (yn bennaf) ynghylch cynllunio gofal, penderfyniadau lleoli ac adolygu achosion plant penodol (y rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, sy’n cael eu lletya gan sefydliadau gwirfoddol neu sydd wedi eu lleoli mewn cartref preifat i blant).

Effaith y diwygiadau a wneir yn y Rheoliadau hyn yw na fydd yr is-ddeddfwriaeth gynharach, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio gofal a materion cysylltiedig ar gyfer plant, ond yn gymwys mewn perthynas â phlant sy’n cael llety gan sefydliadau gwirfoddol ac i blant sydd wedi eu lleoli mewn cartrefi preifat i blant ac y bydd yn cyfeirio at y ddarpariaeth briodol a wneir gan Ddeddf 2014.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.