Search Legislation

Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) a Chynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

4.—(1Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

“ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015;;

(b)yn lle’r diffiniad o “rhiant maeth” rhodder y canlynol—

“ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw person sydd wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth—

(a)

o dan y Rheoliadau hyn, a

(b)

ac eithrio yn rheoliadau 24 i 33, mae’n cynnwys person y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth);; ac

(c)yn lle’r diffiniad o “lleoliad” rhodder y canlynol—

ystyr “lleoliad” (“placement”) yw unrhyw leoliad plentyn gyda rhieni maeth a wneir gan—

(a)

awdurdod lleol o dan adran 81 o Ddeddf 2014, neu

(b)

corff gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf 1989,

nad yw’n lleoliad ar gyfer mabwysiadu ac, ac eithrio yn Rhan V, mae’n cynnwys lleoliad sy’n cael ei drefnu gan asiantaeth faethu annibynnol sy’n gweithredu ar ran awdurdod lleol, ac mae cyfeiriadau at blentyn sy’n cael ei leoli i’w dehongli yn unol â hynny;..

(3Yn rheoliad 3(3)(b)(ii) (datganiad o ddiben ac arweiniad plant), yn lle “adran 26(3) o Ddeddf 1989” rhodder “adran 174(1) o Ddeddf 2014”.

(4Yn rheoliad 30 (cofnodion achos ynglŷn â rhieni maeth ac eraill)—

(a)ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (d); a

(b)yn lle paragraff (4) rhodder y canlynol—

(4) Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod achos ar gyfer pob person y mae plentyn wedi’i leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu o dan reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth) a rhaid iddo gynnwys mewn perthynas â’r person hwnnw—

(a)cofnod ynglŷn â’r lleoliad, gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi’i leoli, dyddiad dechrau’r lleoliad ac, os yw’r lleoliad wedi ei derfynu, dyddiad ac amgylchiadau’r terfyniad; a

(b)yr wybodaeth a sicrhawyd mewn perthynas â’r ymholiadau a wnaed o dan reoliad 26(2) neu reoliad 28 (fel y bo’n briodol) o Reoliadau 2015..

(5Yn lle rheoliad 31 (cofrestr o rieni maeth) rhodder y canlynol—

Cofrestr o rieni maeth

31.  Rhaid i’r darparydd gwasanaeth maethu gadw cofrestr (“cofrestr o rieni maeth”) a chofnodi ynddi’r manylion canlynol mewn perthynas â phob rhiant maeth—

(a)enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhyw pob rhiant maeth ac, yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, bob person y mae wedi lleoli plentyn gydag ef o dan reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015,

(b)dyddiad y gymeradwyaeth a phob adolygiad o’i gymeradwyaeth (yn ôl fel y digwydd), ac

(c)telerau cyfredol y gymeradwyaeth (os oes rhai)..

(6Yn rheoliad 32(2) (cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion), yn lle “reoliad 38(2)” rhodder “reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015”.

(7Yn rheoliad 33 (dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol)—

(a)>yn y geiriau agoriadol, yn lle “awdurdod cyfrifol” rhodder “gorff gwirfoddol”;

(b)ym mharagraff (a), yn lle “(yn ôl fel y digwydd) adran 22(3) neu” rhodder “adran”; ac

(c)yn y pennawd, yn lle “yr awdurdod cyfrifol” rhodder “y corff gwirfoddol”.

(8Yn rheoliad 34 (gwneud lleoliadau)—

(a)yn lle’r geiriau agoriadol ym mharagraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff corff gwirfoddol leoli plentyn gyda rhiant maeth ond—;

(b)ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “yr awdurdod cyfrifol” rhodder “y sefydliad gwirfoddol”;

(c)ym mharagraff (2)(ch), yn lle “rheoliad 40” rhodder “rheoliad 29 o Reoliadau 2015 (asiantaethau maethu annibynnol – cyflawni swyddogaethau awdurdod cyfrifol)”; a

(d)ym mharagraff (3), yn lle “awdurdod cyfrifol” rhodder “corff gwirfoddol”.

(9Yn rheoliad 35 (goruchwylio lleoliadau)—

(a)yn lle “awdurdod cyfrifol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff gwirfoddol”;

(b)yn lle “awdurdod”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff”; ac

(c)hepgorer paragraff (2).

(10Yn rheoliad 36 (terfynu lleoliadau)—

(a)yn lle “awdurdod cyfrifol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff gwirfoddol”; a

(b)ym mharagraff (1), yn lle “(yn ôl fel y digwydd) adran 22(3) neu” rhodder “adran”.

(11Yn rheoliad 37(1) (lleoliadau byr-dymor), yn lle “awdurdod cyfrifol” rhodder “corff gwirfoddol”.

(12Hepgorer rheoliad 38 (lleoliadau brys a di-oed gan awdurdodau lleol).

(13Yn rheoliad 39 (lleoliadau y tu allan i Gymru), hepgorer paragraff (2).

(14Hepgorer rheoliad 40 (asiantaethau maethu annibynnol – cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol).

(15Yn rheoliad 42B(1) (hysbysu am gydymffurfedd), yn lle “Deddf 1989 a Deddf 2000” rhodder “Deddf 1989, Deddf 2000 a Deddf 2014”.

(16Yn Atodlen 6 (materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau lleoliad maeth)—

(a)yn lle “awdurdod cyfrifol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff gwirfoddol”; a

(b)yn lle “awdurdod”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources