Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 20034

1

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 20038 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

a

yn y lle priodol mewnosoder—

  • “ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

  • ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015;

b

yn lle’r diffiniad o “rhiant maeth” rhodder y canlynol—

  • “ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw person sydd wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth—

    1. a

      o dan y Rheoliadau hyn, a

    2. b

      ac eithrio yn rheoliadau 24 i 33, mae’n cynnwys person y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth);

c

yn lle’r diffiniad o “lleoliad” rhodder y canlynol—

  • ystyr “lleoliad” (“placement”) yw unrhyw leoliad plentyn gyda rhieni maeth a wneir gan—

    1. a

      awdurdod lleol o dan adran 81 o Ddeddf 2014, neu

    2. b

      corff gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf 1989,

    nad yw’n lleoliad ar gyfer mabwysiadu ac, ac eithrio yn Rhan V, mae’n cynnwys lleoliad sy’n cael ei drefnu gan asiantaeth faethu annibynnol sy’n gweithredu ar ran awdurdod lleol, ac mae cyfeiriadau at blentyn sy’n cael ei leoli i’w dehongli yn unol â hynny;.

3

Yn rheoliad 3(3)(b)(ii) (datganiad o ddiben ac arweiniad plant), yn lle “adran 26(3) o Ddeddf 1989” rhodder “adran 174(1) o Ddeddf 2014”.

4

Yn rheoliad 30 (cofnodion achos ynglŷn â rhieni maeth ac eraill)—

a

ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (d); a

b

yn lle paragraff (4) rhodder y canlynol—

4

Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod achos ar gyfer pob person y mae plentyn wedi’i leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu o dan reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth) a rhaid iddo gynnwys mewn perthynas â’r person hwnnw—

a

cofnod ynglŷn â’r lleoliad, gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi’i leoli, dyddiad dechrau’r lleoliad ac, os yw’r lleoliad wedi ei derfynu, dyddiad ac amgylchiadau’r terfyniad; a

b

yr wybodaeth a sicrhawyd mewn perthynas â’r ymholiadau a wnaed o dan reoliad 26(2) neu reoliad 28 (fel y bo’n briodol) o Reoliadau 2015.

5

Yn lle rheoliad 31 (cofrestr o rieni maeth) rhodder y canlynol—

Cofrestr o rieni maeth31

Rhaid i’r darparydd gwasanaeth maethu gadw cofrestr (“cofrestr o rieni maeth”) a chofnodi ynddi’r manylion canlynol mewn perthynas â phob rhiant maeth—

a

enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhyw pob rhiant maeth ac, yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, bob person y mae wedi lleoli plentyn gydag ef o dan reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015,

b

dyddiad y gymeradwyaeth a phob adolygiad o’i gymeradwyaeth (yn ôl fel y digwydd), ac

c

telerau cyfredol y gymeradwyaeth (os oes rhai).

6

Yn rheoliad 32(2) (cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion), yn lle “reoliad 38(2)” rhodder “reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015”.

7

Yn rheoliad 33 (dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol)—

a

>yn y geiriau agoriadol, yn lle “awdurdod cyfrifol” rhodder “gorff gwirfoddol”;

b

ym mharagraff (a), yn lle “(yn ôl fel y digwydd) adran 22(3) neu” rhodder “adran”; ac

c

yn y pennawd, yn lle “yr awdurdod cyfrifol” rhodder “y corff gwirfoddol”.

8

Yn rheoliad 34 (gwneud lleoliadau)—

a

yn lle’r geiriau agoriadol ym mharagraff (1) rhodder—

1

Ni chaiff corff gwirfoddol leoli plentyn gyda rhiant maeth ond—

b

ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “yr awdurdod cyfrifol” rhodder “y sefydliad gwirfoddol”;

c

ym mharagraff (2)(ch), yn lle “rheoliad 40” rhodder “rheoliad 29 o Reoliadau 2015 (asiantaethau maethu annibynnol – cyflawni swyddogaethau awdurdod cyfrifol)”; a

d

ym mharagraff (3), yn lle “awdurdod cyfrifol” rhodder “corff gwirfoddol”.

9

Yn rheoliad 35 (goruchwylio lleoliadau)—

a

yn lle “awdurdod cyfrifol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff gwirfoddol”;

b

yn lle “awdurdod”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff”; ac

c

hepgorer paragraff (2).

10

Yn rheoliad 36 (terfynu lleoliadau)—

a

yn lle “awdurdod cyfrifol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff gwirfoddol”; a

b

ym mharagraff (1), yn lle “(yn ôl fel y digwydd) adran 22(3) neu” rhodder “adran”.

11

Yn rheoliad 37(1) (lleoliadau byr-dymor), yn lle “awdurdod cyfrifol” rhodder “corff gwirfoddol”.

12

Hepgorer rheoliad 38 (lleoliadau brys a di-oed gan awdurdodau lleol).

13

Yn rheoliad 39 (lleoliadau y tu allan i Gymru), hepgorer paragraff (2).

14

Hepgorer rheoliad 40 (asiantaethau maethu annibynnol – cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol).

15

Yn rheoliad 42B(1) (hysbysu am gydymffurfedd), yn lle “Deddf 1989 a Deddf 2000” rhodder “Deddf 1989, Deddf 2000 a Deddf 2014”.

16

Yn Atodlen 6 (materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau lleoliad maeth)—

a

yn lle “awdurdod cyfrifol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff gwirfoddol”; a

b

yn lle “awdurdod”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “corff”.