xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 236 (Cy. 88)

Addysg, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016

Gwnaed

24 Chwefror 2016

Yn dod i rym

1 Mai 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 55(1)(c) a 59 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn hwylus at ddibenion darpariaethau’r Ddeddf honno, neu o ganlyniad i ddarpariaethau’r Ddeddf honno, wneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 55(2) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 a deuant i rym ar 1 Mai 2016.

RHAN 2Diwygio deddfwriaeth sylfaenol

Diwygio Deddf Dysgu a Sgiliau 2000

2.  Yn adran 33N(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(2) yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—

“course of study” means a course of education or training that—

(a)

leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or

(b)

is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;.

Diwygio Deddf Addysg 2002

3.  Yn adran 97 o Ddeddf Addysg 2002(3) yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—

“course of study” means a course of education or training that—

(a)

leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or

(b)

is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;.

RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992

4.  Ym mharagraff 1(1)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992(4), fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle is-baragraff (iii) rhodder—

(iii)a qualification which is awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994

5.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994(5), fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—

“approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994

6.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994(6) yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—

“approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;.

Diwygio Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999

7.  Yn rheoliad 22 o Reoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999(7), o fewn y diffiniad o “educational qualification” yn lle paragraff (f) rhodder—

(f)a qualification which has been awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007

8.  Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 3, dileer y diffiniad o “cymhwyster perthnasol”;

(b)yn rheoliad 5(2) yn lle is-baragraff (dd) rhodder—

(da)Cymwysterau Cymru;

(dd)unrhyw gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 fel corff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru;;

(c)yn rheoliad 5(5) yn is-baragraff (d) dileer “ac”; a

(d)yn rheoliad 5(5) ar y diwedd mewnosoder —

; ac

(e)unrhyw gwrs astudio sy’n arwain at gymhwyster (ac eithrio un o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod) a ddarperir i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol os yw—

(i)y ffurf ar gymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ati wedi ei chymeradwyo o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu wedi ei dynodi o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu

(ii)y cwrs wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 2009

9.  Ar ddiwedd rheoliad 3(5) o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 2009(9) ychwaneger—

(x)Qualifications Wales.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009

10.  Mae rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009(10) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn y diffiniad o “NQF” hepgorer y geiriau o “sy’n cynnwys cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd;

(b)yn y diffiniad o “QCF” hepgorer y geiriau o “sef cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd; ac

(c)yn y diffiniadau o “lefel NQF” a “lefel QCF” hepgorer “perthnasol”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009

11.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009(11) yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—

mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;.

Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011

12.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011(12)

(a)yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”; a

(b)yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd.

Diwygio Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011

13.  Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011(13) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”;

(b)yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd; ac

(c)yn y diffiniad o “lefel FfCC” hepgorer “perthnasol”.

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011

14.—(1Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) yn y lle priodol mewnosoder—

“rhif cymeradwyo” (“approval number”) yw’r rhif a ddyrennir i gymhwyster gan Gymwysterau Cymru o dan adran 22(3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;.

(3Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—

mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;.

(4Ym mharagraff 3 yn Rhan 1 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—

(d)y dyddiad dyfarnu;

(dd)y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac

(e)y rhif cymeradwyo (os oes rhif).

(5Yn lle paragraff 6 yn Rhan 2 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—

(d)y dyddiad dyfarnu;

(dd)y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac

(e)y rhif cymeradwyo (os oes rhif).

Diwygio Rheoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013

15.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013(15) yn lle’r diffiniad o “cwrs astudio” rhodder—

ystyr “cwrs astudio” yw cwrs astudio addysg neu hyfforddiant—

(a)

sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwywyd o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu a ddynodwyd o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu

(b)

sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno;.

Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013

16.  Ym mharagraff 13 o Ran 2 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013(16) yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)in relation to Wales, is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013

17.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013(17) yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn lle ““relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder ““cymhwyster” yn adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

18.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014(18) yn y diffiniad o “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.

Diwygio Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015

19.  Yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015(19) yn y diffiniad o “further education course” ym mharagraff (b) yn lle is-baragraffau (ii), (iii) a (iv) rhodder—

(ii)is funded by a local authority, or

(iii)leads to a qualification awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015

20.  Yn Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015(20)

(a)ym mharagraff 1(18) o Ran 1 dileer “and”; a

(b)ar ddiwedd paragraff 1(19) ychwaneger—

; and

(20) Qualifications Wales.

Dirymu darpariaeth arbed mewn cysylltiad â chymwysterau sydd wedi eu hachredu at ddibenion Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015

21.  Mae erthygl 13 o Orchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015(21) wedi ei dirymu.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

24 Chwefror 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (“Deddf 2015”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2015 yn sefydlu Cymwysterau Cymru ac yn nodi ei brif nodau.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau mewn deddfwriaeth er mwyn adlewyrchu’r system newydd ar gyfer rheoleiddio cymwysterau y darperir ar ei chyfer yn Neddf 2015.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, o ganlyniad i ddarpariaethau Deddf 2015, neu at ddibenion darpariaethau’r Ddeddf honno, sef Rhan 2 (sefydlu a phrif nodau Cymwysterau Cymru), Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu), Rhan 6 (darpariaeth bellach sy’n berthnasol i gydnabod, cymeradwyo a dynodi) ac adran 56 (dehongli cyfeiriadau at “cymhwyster”) o Ddeddf 2015 ac Atodlen 3 (darpariaeth bellach ynghylch cydnabod cyrff dyfarnu) ac Atodlen 4 (diwygiadau canlyniadol) iddi.

Mae gan Gymwysterau Cymru (sydd wedi ei sefydlu gan adran 2 o’r Ddeddf) swyddogaethau cydnabod cyrff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru (Rhan 3) a rheoleiddio cyrff o’r fath drwy amodau cydnabod (adran 36 ac Atodlen 3). Mae adran 34 yn ymdrin â chymwysterau y caniateir iddynt gael eu defnyddio ar gyrsiau penodol sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus, sydd, yn gyffredinol, yn eu cyfyngu i ffurfiau ar gymhwyster sydd naill ai wedi eu cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru (o dan Ran 4) neu wedi eu dynodi ganddo (o dan Ran 5). Mae Atodlen 4 yn diwygio Rhan 5 o Ddeddf Addysg 1997 a Rhan 5 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

2000 p. 21. Mewnosodwyd adran 33N gan adran 35 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1). Mae diwygiadau eraill i adran 33N nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(3)

2002 p. 32. Mewnosodwyd y diffiniad o “course of study” yn adran 97 gan adran 1(1) a (2) o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

(4)

O.S. 1992/548. Mae paragraff 1(1)(b) wedi ei ddiwygio o ran Cymru gan O.S. 2010/2448, erthygl 2.

(5)

O.S. 1994/651. Mewnosodwyd y diffiniad o “approved relevant qualification” yn rheoliad 2 o ran Cymru gan O.S. 2010/2431, rheoliad 2(a). Mae diwygiadau eraill i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(6)

O.S. 1994/652. Mewnosodwyd y diffiniad o “approved relevant qualification” yn rheoliad 2 o ran Cymru gan O.S. 2010/2431, rheoliad 3(a). Mae diwygiadau eraill i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(7)

O.S. 1999/2864. Mewnosodwyd y diffiniad o “educational qualification” yn rheoliad 22 gan O.S. 2010/1203, rheoliadau 2 a 6(b). Mae diwygiadau eraill i reoliad 22 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(8)

O.S. 2007/3562 (Cy. 312). Mewnosodwyd y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn rheoliad 3 ac is-baragraffau (d) - (f) o reoliad 5(2) gan O.S. 2011/2325, rheoliad 2(1), (2)(c) a (3)(a). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(9)

O.S. 2009/1563. Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(10)

O.S. 2009/3256 (Cy. 284). Diwygiwyd y diffiniadau o “NQF” a “lefel NQF” a mewnosodwyd y diffiniadau o “QCF” a “lefel QCF” gan O.S. 2010/2431, rheoliad 8(a).

(11)

O.S. 2009/3355 (Cy. 294). Mewnosodwyd y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn rheoliad 2 gan O.S. 2010/2431, rheoliad 9(a). Mae diwygiad arall i reoliad 2 nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(12)

O.S. 2011/1943 (Cy. 210). Mae diwygiad nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(14)

O.S. 2011/1963 (Cy. 217). Mae diwygiad nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(19)

O.S. 2015/621. Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.