xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4. Ym mharagraff 1(1)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992(1), fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle is-baragraff (iii) rhodder—
“(iii)a qualification which is awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
5. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994(2), fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—
““approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
6. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994(3) yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—
““approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
7. Yn rheoliad 22 o Reoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999(4), o fewn y diffiniad o “educational qualification” yn lle paragraff (f) rhodder—
“(f)a qualification which has been awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
8. Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 3, dileer y diffiniad o “cymhwyster perthnasol”;
(b)yn rheoliad 5(2) yn lle is-baragraff (dd) rhodder—
“(da)Cymwysterau Cymru;
(dd)unrhyw gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 fel corff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru;”;
(c)yn rheoliad 5(5) yn is-baragraff (d) dileer “ac”; a
(d)yn rheoliad 5(5) ar y diwedd mewnosoder —
“; ac
(e)unrhyw gwrs astudio sy’n arwain at gymhwyster (ac eithrio un o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod) a ddarperir i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol os yw—
(i)y ffurf ar gymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ati wedi ei chymeradwyo o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu wedi ei dynodi o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
(ii)y cwrs wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.”
9. Ar ddiwedd rheoliad 3(5) o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 2009(6) ychwaneger—
“(x)Qualifications Wales.”
10. Mae rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009(7) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)yn y diffiniad o “NQF” hepgorer y geiriau o “sy’n cynnwys cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd;
(b)yn y diffiniad o “QCF” hepgorer y geiriau o “sef cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd; ac
(c)yn y diffiniadau o “lefel NQF” a “lefel QCF” hepgorer “perthnasol”.
11. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009(8) yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—
“mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
12. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011(9)—
(a)yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”; a
(b)yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd.
13. Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011(10) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”;
(b)yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd; ac
(c)yn y diffiniad o “lefel FfCC” hepgorer “perthnasol”.
14.—(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y lle priodol mewnosoder—
““rhif cymeradwyo” (“approval number”) yw’r rhif a ddyrennir i gymhwyster gan Gymwysterau Cymru o dan adran 22(3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
(3) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—
“mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
(4) Ym mharagraff 3 yn Rhan 1 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—
“(d)y dyddiad dyfarnu;
(dd)y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac
(e)y rhif cymeradwyo (os oes rhif).”
(5) Yn lle paragraff 6 yn Rhan 2 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—
“(d)y dyddiad dyfarnu;
(dd)y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac
(e)y rhif cymeradwyo (os oes rhif).”
15. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013(12) yn lle’r diffiniad o “cwrs astudio” rhodder—
“ystyr “cwrs astudio” yw cwrs astudio addysg neu hyfforddiant—
sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwywyd o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu a ddynodwyd o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno;”.
16. Ym mharagraff 13 o Ran 2 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013(13) yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)in relation to Wales, is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
17. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013(14) yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn lle ““relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder ““cymhwyster” yn adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.
18. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014(15) yn y diffiniad o “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.
19. Yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015(16) yn y diffiniad o “further education course” ym mharagraff (b) yn lle is-baragraffau (ii), (iii) a (iv) rhodder—
“(ii)is funded by a local authority, or
(iii)leads to a qualification awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
20. Yn Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015(17)—
(a)ym mharagraff 1(18) o Ran 1 dileer “and”; a
(b)ar ddiwedd paragraff 1(19) ychwaneger—
“; and
(20) Qualifications Wales.”
21. Mae erthygl 13 o Orchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015(18) wedi ei dirymu.
O.S. 1992/548. Mae paragraff 1(1)(b) wedi ei ddiwygio o ran Cymru gan O.S. 2010/2448, erthygl 2.
O.S. 1994/651. Mewnosodwyd y diffiniad o “approved relevant qualification” yn rheoliad 2 o ran Cymru gan O.S. 2010/2431, rheoliad 2(a). Mae diwygiadau eraill i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 1994/652. Mewnosodwyd y diffiniad o “approved relevant qualification” yn rheoliad 2 o ran Cymru gan O.S. 2010/2431, rheoliad 3(a). Mae diwygiadau eraill i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 1999/2864. Mewnosodwyd y diffiniad o “educational qualification” yn rheoliad 22 gan O.S. 2010/1203, rheoliadau 2 a 6(b). Mae diwygiadau eraill i reoliad 22 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2007/3562 (Cy. 312). Mewnosodwyd y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn rheoliad 3 ac is-baragraffau (d) - (f) o reoliad 5(2) gan O.S. 2011/2325, rheoliad 2(1), (2)(c) a (3)(a). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2009/1563. Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2009/3256 (Cy. 284). Diwygiwyd y diffiniadau o “NQF” a “lefel NQF” a mewnosodwyd y diffiniadau o “QCF” a “lefel QCF” gan O.S. 2010/2431, rheoliad 8(a).
O.S. 2009/3355 (Cy. 294). Mewnosodwyd y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn rheoliad 2 gan O.S. 2010/2431, rheoliad 9(a). Mae diwygiad arall i reoliad 2 nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2011/1943 (Cy. 210). Mae diwygiad nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2011/1963 (Cy. 217). Mae diwygiad nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2015/621. Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.