Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009

10.  Mae rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn y diffiniad o “NQF” hepgorer y geiriau o “sy’n cynnwys cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd;

(b)yn y diffiniad o “QCF” hepgorer y geiriau o “sef cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd; ac

(c)yn y diffiniadau o “lefel NQF” a “lefel QCF” hepgorer “perthnasol”.

(1)

O.S. 2009/3256 (Cy. 284). Diwygiwyd y diffiniadau o “NQF” a “lefel NQF” a mewnosodwyd y diffiniadau o “QCF” a “lefel QCF” gan O.S. 2010/2431, rheoliad 8(a).