RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth

Diwygio Rheoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 201315

Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 201315 yn lle’r diffiniad o “cwrs astudio” rhodder—

  • ystyr “cwrs astudio” yw cwrs astudio addysg neu hyfforddiant—

    1. a

      sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwywyd o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu a ddynodwyd o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu

    2. b

      sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno;