6. Os gwneir cais gan y Cyngor, rhaid i gyflogwr roi’r manylion a bennir yn yr Atodlen iddo am unrhyw berson—
(a)sydd, ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor, naill ai wedi ei gyflogi neu fel arall wedi ei gymryd ymlaen gan y cyflogwr hwnnw i ddarparu gwasanaethau perthnasol; a
(b)y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.