Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr
Gwnaed
9 Mawrth 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Mawrth 2016
Yn dod i rym
5 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2016(2).
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Ebrill 2016.
2.—(1) Mae Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2, yn y tair colofn, hepgorer y cofnodion mewn perthynas ag —
(a)Rheoliadau’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Atgyfeirio Achosion a Adolygwyd) 2004(3); a
(b)Rheoliadau’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Atgyfeirio Achosion a Adolygwyd) (Diwygio) 2005(4).
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall yn Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 (“Rheoliadau 2016”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2016 er mwyn hepgor cyfeiriad at ddwy set o reoliadau o Atodlen 2 i Reoliadau 2016 (y rheoliadau sydd wedi eu datgymhwyso o ran Cymru).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2014 dccc 4 (“Deddf 2014”). Gweler adran 197(1) o Ddeddf 2014 am y diffiniad o “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” a “rheoliadau”.