Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2016

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 351 (Cy. 109)

Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2016

Gwnaed

9 Mawrth 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Mawrth 2016

Yn dod i rym

5 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2016(2).

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Ebrill 2016.

Diwygio Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016

2.—(1Mae Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2, yn y tair colofn, hepgorer y cofnodion mewn perthynas ag —

(a)Rheoliadau’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Atgyfeirio Achosion a Adolygwyd) 2004(3); a

(b)Rheoliadau’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Atgyfeirio Achosion a Adolygwyd) (Diwygio) 2005(4).

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

9 Mawrth 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall yn Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 (“Rheoliadau 2016”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2016 er mwyn hepgor cyfeiriad at ddwy set o reoliadau o Atodlen 2 i Reoliadau 2016 (y rheoliadau sydd wedi eu datgymhwyso o ran Cymru).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2014 dccc 4 (“Deddf 2014”). Gweler adran 197(1) o Ddeddf 2014 am y diffiniad o “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” a “rheoliadau”.