Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016
2016 Rhif 359 (Cy. 112)
Adnoddau Dŵr, Cymru
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 92 a 219(2) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19911 ac adran 62 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 20082 (“Deddf 2008”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008, y bydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru (sef y rheoleiddiwr at ddibenion y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’u cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 62 o Ddeddf 2008.