Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cynhwysydd” (“container”) yw tanc sefydlog â chragen sengl neu gragen ddwbl, drwm, bowser symudol neu (hyd yn oed os nad yw wedi ei gysylltu â phibell sefydlog neu bibellwaith sefydlog) cynhwysydd swmp o faint canolig;

  • ystyr “drwm” (“drum”) yw drwm olew neu gynhwysydd tebyg a ddefnyddir i storio olew;

  • mae “mangreoedd” (“premises”) yn cynnwys tir ond nid yw’n cynnwys cerbydau na llestrau;

  • ystyr “olew” (“oil”) yw olew o unrhyw fath ac eithrio bitwmen crai;

  • ystyr “sugnbibell ceudod bychan” (“small bore suction pipe”) yw sugnbibell y mae diamedr ei phibell yn llai nag wyth o filimedrau;

  • ystyr “system atal eilaidd” (“secondary containment system”) yw hambwrdd diferion, ardal wedi ei hamgylchynu gan fwnd neu ddalbwll neu unrhyw system arall ar gyfer atal olew nad yw yn ei gynhwysydd mwyach rhag gollwng o’r fan y mae’n cael ei storio;

  • mae “tanc sefydlog” (“fixed tank”) yn cynnwys cynhwysydd swmp o faint canolig sydd wedi ei gysylltu â phibell sefydlog neu bibellwaith sefydlog.