1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i adeilad ynni a eithrir ac mae i “adeilad ynni a eithrir” yr un ystyr ag a roddir i “excepted energy building” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009(1).
(4) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2016.