2016 Rhif 386 (Cy. 120)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 66, 68, 74A a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 19701 ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion rheoli a rheoleiddio rhyddhau’n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a’u symudiadau trawsffiniol3, mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt4, mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd5 a mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd6.

Fel y nodir uchod, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at yr Atodiadau i offerynnau’r UE a grybwyllir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Bu ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod y cyfnod o lunio’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd7 neu, yn achos darpariaethau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970.