Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Cyflwyniad a chyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Mai 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli a chwmpas

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod a nodir yn adran 67(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel awdurdod sydd â’r ddyletswydd i orfodi Rhan IV o’r Ddeddf honno o fewn ei ardal;

ystyr “Cyfarwyddeb 82/475” (“Directive 82/475”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 82/475/EEC sy’n gosod y categorïau o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid y caniateir eu defnyddio at ddibenion labelu bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid anwes(1);

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/32” (“Directive 2002/32”) yw Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid(2);

ystyr “Cyfarwyddeb 2008/38” (“Directive 2008/38”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/38/EC sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwydydd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol(3);

ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4);

ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio, sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau’r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC(5);

ystyr “Rheoliad 1829/2003” (“Regulation 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig(6);

ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid(7).

(2Mae gan unrhyw ymadrodd a ddefnyddir y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddo yn y Rheoliad UE o dan sylw.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475, Cyfarwyddeb 2002/32, Cyfarwyddeb 2008/38, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(4Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ychwanegyn bwyd anifeiliaid yng nghategori (d) neu (e) o Erthygl 6(1) of Reoliad 1831/2003, ac eithrio’r rheini yn y grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw(8).

(1)

OJ Rhif L 213, 21.7.1982, t 27. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/67/EC (OJ Rhif L 261, 24.9.1998, t 10).

(2)

OJ Rhif L 140, 30.5.2002, t 10. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/186 (OJ Rhif L 31, 7.2.2015, t 11).

(3)

OJ Rhif L 62, 6.3.2008, t 9. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1123/2014 (OJ Rhif L 304, 23.10.2014, t 81).

(4)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, p 1).

(5)

OJ Rhif L 229, 1.9.2009, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 939/2010 (OJ Rhif L 277, 21.10.2010, t 4).

(6)

OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t 64).

(7)

OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 29. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/2294 (OJ Rhif L 324, 10.12.2015, t 3).

(8)

Mae categorïau (d) ac (e) o Erthygl 6(1) yn cynnwys, yn eu trefn, ychwanegion sootechnegol, a chocsidiostatau a histomonostatau. Mae’r grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraffau 4(a), (b) ac (c) o Atodiad I yn cynnwys sylweddau gwella treuliadwyedd, sefydlogyddion fflora’r perfedd a sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd.

Back to top

Options/Help