Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 4Gorfodi Rheoliad 1831/2003

Dehongli’r Rhan hon

9.  Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 1831/2003.

Y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 1831/2003

10.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n mynd yn groes i ddarpariaeth, neu’n methu cydymffurfio â darpariaeth, a bennir ym mharagraff (2) fel y’i darllenir, yn achos is-baragraff (a) neu (e), gydag Erthygl 2 (darpariaeth drosiannol) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/327 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gofynion ynghylch rhoi ar y farchnad ac amodau defnyddio ychwanegion sy’n cynnwys paratoadau(1).

(2Y darpariaethau penodedig yw—

(a)Erthygl 3(1) (gwaharddiad ar roi ar y farchnad, prosesu neu ddefnyddio ychwanegyn bwyd oni bai ei fod wedi ei gwmpasu gan awdurdodiad a’i fod yn bodloni amodau perthnasol), fel y’i darllenir gyda pharagraff (2) (awdurdodiad cenedlaethol at ddibenion arbrofol gwyddonol), paragraff (4) (amodau ar gymysgu ychwanegion) ac Erthygl 10 (statws cynhyrchion presennol);

(b)Erthygl 3(3) (cyfyngiad ar y personau a gaiff roi ar y farchnad am y tro cyntaf ychwanegion penodol);

(c)Erthygl 12(1) (gofyniad bod rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio neu’n rhoi ar y farchnad ychwanegyn, neu fwyd anifeiliaid y mae’r ychwanegyn wedi ei gynnwys ynddo, neu unrhyw barti arall a chanddo fuddiant, sicrhau bod unrhyw amodau sydd wedi eu gosod yn cael eu parchu);

(d)Erthygl 12(2) (gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn cadw at rwymedigaethau monitro pan fyddant wedi eu gosod, yn hysbysu’r Comisiwn am unrhyw wybodaeth newydd am gynnyrch a allai effeithio ar y gwerthusiad o ddiogelwch ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, neu am unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y bwyd anifeiliaid sydd wedi ei osod gan yr awdurdod cymwys mewn trydedd wlad);

(e)Erthygl 16(1), (3) a (4) (gwaharddiad ar roi ar y farchnad ychwanegion bwyd anifeiliaid neu rag-gymysgeddau oni bai eu bod wedi eu labelu yn y modd penodedig ac â’r wybodaeth ragnodedig), fel y’i darllenir gyda pharagraff (2) (rhanddirymiad ar gyfer cyfansoddion blasu penodol); ac

(f)Erthygl 16(5) (gofyniad bod rhaid i ychwanegion a rhag-gymysgeddau gael eu marchnata mewn pecynnau neu gynwysyddion caeedig y mae rhaid eu bod wedi eu cau yn y fath ffordd fel bod y sêl yn cael ei difrodi wrth agor y pecynnau neu’r cynwysyddion ac na ellir eu hailddefnyddio).

(1)

OJ Rhif L 58, 3.3.2015, t 46.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources