Cosbau am droseddau o dan y Rheoliadau hyn
18.—(1) Mae person a ddyfernir yn euog o drosedd o dan reoliad 4(1), 7(1), 10(1), 12(1), 15(1), (2), (3), neu (4) neu 17(1) yn agored ar euogfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw’n hwy na chwe mis neu i ddirwy, neu i’r ddau.
(2) Mae person a ddyfernir yn euog o drosedd o dan reoliad 15(8) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.