Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/01/2024
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/10/2023. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016, Adran 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Asiantaeth (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;
ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod a nodir yn adran [F167(1A)] o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel awdurdod sydd â’r ddyletswydd i orfodi Rhan IV o’r Ddeddf honno o fewn ei ardal;
F2...
F2...
F3...
ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2);
ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio, sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau’r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC(3);
ystyr “Rheoliad 1829/2003” (“Regulation 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig(4);
ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid(5).
[F4ystyr “Rheoliad 2020/354” (“Regulation 2020/354”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC(1);]
(2) Mae gan unrhyw ymadrodd a ddefnyddir y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddo yn y Rheoliad UE [F5a ddargedwir] o dan sylw.
[F6(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn F7... a ddiffinnir ym mharagraff (1) yn gyfeiriad at yr offeryn F7... hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.]
(4) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ychwanegyn bwyd anifeiliaid yng nghategori (d) neu (e) o Erthygl 6(1) of Reoliad 1831/2003, ac eithrio’r rheini yn y grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw(6).
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 2(1) wedi ei amnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (O.S. 2022/1362), rhlau. 1, 4(2)(a)(ii)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (31.12.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (O.S. 2022/1362), rhlau. 1, 4(2)(a)(i)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (25.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Dibenion Maethol Penodol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1381), rhlau. 1, 2(2)(a)(i)
F4Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (25.12.2020) gan Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Dibenion Maethol Penodol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1381), rhlau. 1, 2(2)(a)(ii)
F5Gair yn rhl. 2(2) wedi ei fewnosod (31.12.2022) gan Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (O.S. 2022/1362), rhlau. 1, 4(2)(b)
F6Rhl. 2(3) wedi ei amnewid (25.12.2020) gan Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Dibenion Maethol Penodol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1381), rhlau. 1, 2(2)(b)
F7Gair yn rhl. 2(3) wedi ei hepgor (31.12.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (O.S. 2022/1362), rhlau. 1, 4(2)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)
OJ Rhif L 140, 30.5.2002, t 10. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/186 (OJ Rhif L 31, 7.2.2015, t 11).
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, p 1).
OJ Rhif L 229, 1.9.2009, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 939/2010 (OJ Rhif L 277, 21.10.2010, t 4).
OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t 64).
OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 29. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/2294 (OJ Rhif L 324, 10.12.2015, t 3).
Mae categorïau (d) ac (e) o Erthygl 6(1) yn cynnwys, yn eu trefn, ychwanegion sootechnegol, a chocsidiostatau a histomonostatau. Mae’r grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraffau 4(a), (b) ac (c) o Atodiad I yn cynnwys sylweddau gwella treuliadwyedd, sefydlogyddion fflora’r perfedd a sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: