RHAN 1Cyflwyniad a chyffredinol

Dehongli a chwmpas2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod a nodir yn adran 67(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel awdurdod sydd â’r ddyletswydd i orfodi Rhan IV o’r Ddeddf honno o fewn ei ardal;

ystyr “Cyfarwyddeb 82/475” (“Directive 82/475”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 82/475/EEC sy’n gosod y categorïau o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid y caniateir eu defnyddio at ddibenion labelu bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid anwes8;
ystyr “Cyfarwyddeb 2002/32” (“Directive 2002/32”) yw Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid9;
ystyr “Cyfarwyddeb 2008/38” (“Directive 2008/38”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/38/EC sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwydydd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol10;
ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd11;
ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio, sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau’r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC12;
ystyr “Rheoliad 1829/2003” (“Regulation 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig13;
ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid14.

(2)

Mae gan unrhyw ymadrodd a ddefnyddir y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddo yn y Rheoliad UE o dan sylw.

(3)

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475, Cyfarwyddeb 2002/32, Cyfarwyddeb 2008/38, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(4)

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ychwanegyn bwyd anifeiliaid yng nghategori (d) neu (e) o Erthygl 6(1) of Reoliad 1831/2003, ac eithrio’r rheini yn y grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw15.