Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 1829/2003

7.—(1Mae person sy’n mynd yn groes i ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (2) neu sy’n methu â chydymffurfio â hi yn cyflawni trosedd.

(2Y darpariaethau penodedig yw—

(a)Erthygl 16(2) (gwaharddiad ar roi ar y farchnad, defnyddio neu brosesu cynnyrch y cyfeirir ato yn Erthygl 15(1)(1) oni bai ei fod wedi ei gwmpasu gan awdurdodiad a’i fod yn bodloni amodau perthnasol), fel y’i darllenir gydag Erthygl 20(6) (gofyniad bod rhaid i gynhyrchion y mae’r Comisiwn wedi mabwysiadu mesur o dan yr Erthygl hon mewn perthynas â hwy gael eu tynnu’n ôl o’r farchnad);

(b)Erthygl 21(1) (gofyniad bod rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad a’r partïon o dan sylw gydymffurfio â’r amodau a osodir ar awdurdodiad ar gyfer y cynnyrch hwnnw, a bod rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gydymffurfio â gofynion monitro ar ôl i’r cynnyrch gael ei roi ar y farchnad);

(c)Erthygl 21(3) (gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn hysbysu’r Comisiwn am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd am gynnyrch a allai effeithio ar y gwerthusiad o ddiogelwch ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, neu am unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y bwyd anifeiliaid mewn trydedd wlad); a

(d)Erthygl 25 (gofyniad am fynegiadau labelu penodol).

(1)

Y cynhyrchion y cyfeirir atynt yn Erthygl 15(1) yw organeddau a addaswyd yn enetig i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, bwyd anifeiliaid sydd wedi ei wneud o organeddau a addaswyd yn enetig, neu sy’n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig a bwyd anifeiliaid a gynhyrchir o organeddau a addaswyd yn enetig.

Back to top

Options/Help