Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Gofynion mewn perthynas â hylendid bwyd anifeiliaid, cofrestru a chymeradwyo

Cwmpas a dehongli Rhan 2

3.—(1Nid yw’r Rhan hon yn gymwys i’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 2(2) o Reoliad 183/2005.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon neu yn Atodlen 2 at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 183/2005.

Awdurdodau cymwys

4.—(1Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau penodedig yw’r canlynol—

(a)mewn cysylltiad ag Erthyglau 9(1) a (3), 18(3), 20(2), 21(1) a 22(2)(b), yr Asiantaeth a’r awdurdod gorfodi;

(b)mewn cysylltiad ag Erthyglau 7, 9(2), 10, 13, 14, 15, 16, 17, 18(1), (2) a (4) a 19(2), yr awdurdod gorfodi; ac

(c)mewn cysylltiad ag Erthygl 19(1), yr Asiantaeth.

(2Yr awdurdodau cymwys at ddibenion yr adran sydd â’r pennawd “Dioxin Monitoring for Oils, Fats and Derived Products” yn Atodiad II yw—

(a)mewn cysylltiad â pharagraff 2(e), yr awdurdod gorfodi; a

(b)mewn cysylltiad â pharagraff 7, yr awdurdod gorfodi a’r Asiantaeth.

Gorfodi darpariaethau penodedig o Reoliad 183/2005

5.  Mae person sy’n torri, neu’n methu â chydymffurfio, ag unrhyw un o’r darpariaethau o Reoliad 183/2005 a bennir yn y golofn gyntaf o Dabl 1 neu Dabl 2 o Atodlen 2, yn cyflawni trosedd.

Ffurf hysbysiad gyda golwg ar gofrestru

6.  Rhaid i berson y gwneir yn ofynnol o dan Erthygl 9 (rheolaethau swyddogol, hysbysu a chofrestru) ei fod yn hysbysu’r awdurdod gorfodi o’r wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) neu (b) o’r Erthygl honno, sicrhau bod unrhyw hysbysiad o’r fath—

(a)yn ysgrifenedig ac wedi ei lofnodi gan neu ar ran y person hwnnw;

(b)yn cynnwys enw’r person hwnnw ac, os yw’n wahanol, enw busnes y person hwnnw;

(c)yn cynnwys cyfeiriad y person hwnnw ac, os yw’n wahanol, cyfeiriad unrhyw sefydliad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(d)yn nodi’r gweithgareddau busnes bwyd anifeiliaid ym mha bynnag ffurf a fydd yn ofynnol gan yr awdurdod gorfodi; ac

(e)wedi ei gyfeirio’n gywir at yr awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r sefydliad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

Ffurf cais am gymeradwyaeth

7.  Pan fo’n ofynnol i sefydliad busnes bwyd anifeiliaid gael ei gymeradwyo yn unol ag Erthygl 10, rhaid i gais gael ei wneud i’r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal lle y mae’r sefydliad wedi ei leoli ynddi sydd—

(a)yn ysgrifenedig ac wedi ei lofnodi gan neu ar ran yr ymgeisydd;

(b)yn cynnwys enw neu enw busnes a chyfeiriad yr ymgeisydd ac, os yw’n wahanol, cyfeiriad y sefydliad;

(c)yn nodi pa rai o’r gweithgareddau busnes bwyd anifeiliaid a bennir yn Erthygl 10(1) neu y caniateir eu pennu yn unol ag Erthygl 10(3) y mae’r ymgeisydd yn eu cynnal neu’n bwriadu eu cynnal ac yn gofyn am gymeradwyaeth ar eu cyfer;

(d)yn achos unrhyw berson y mae Erthygl 17(2) (esemptiad rhag ymweliadau â’r safle) yn gymwys iddo, yn cynnwys datganiad i’r perwyl bod y sefydliad yn un y mae Erthygl 17(1) yn gymwys iddo a datganiad o gydymffurfiaeth fel sy’n ofynnol gan baragraff (2) o’r Erthygl honno; ac

(e)wedi ei gyfeirio’n gywir at yr awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r sefydliad y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.

Gweithdrefn ar gyfer atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth

8.—(1Pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd camau yn unol ag Erthygl 14 (atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth), rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn unol â pharagraff (2).

(2Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1)—

(a)pennu dyddiad gweithredol yr hysbysiad (“y dyddiad gweithredol”);

(b)datgan ei fod yn bwriadu atal dros dro, ar y dyddiad gweithredol, gofrestriad neu gymeradwyaeth y sefydliad, yn unol ag Erthygl 14 a’r Rheoliadau hyn;

(c)pennu â pha weithgaredd neu weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid y mae’r hysbysiad yn ymwneud;

(d)nodi’r camau adfer sydd eu hangen;

(e)datgan y dirymir y cofrestriad neu’r gymeradwyaeth heb rybudd pellach ar ben-blwydd cyntaf y dyddiad gweithredol oni chyflawnir camau adfer er boddhad yr awdurdod gorfodi o fewn blwyddyn i’r dyddiad gweithredol; ac

(f)darparu gwybodaeth am y terfynau amser ar gyfer apelio o dan reoliad 12.

Gweithdrefn ar gyfer dileu ataliad dros dro

9.  Pan fo’r awdurdod gorfodi a gyflwynodd yr hysbysiad i weithredwr busnes bwyd anifeiliaid o dan reoliad 8 wedi ei fodloni—

(a)bod y camau adfer sy’n ofynnol o dan baragraff (2)(e) o’r rheoliad hwnnw wedi eu cymryd; a

(b)nad yw’r cyfnod ar gyfer gweithredu, a bennir yn y paragraff hwnnw, wedi dod i ben,

rhaid iddo ddileu’r ataliad dros dro ar unwaith a hysbysu gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid i’r perwyl hwnnw.

Gweithdrefn ar gyfer dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth

10.—(1Pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd camau o dan yr amgylchiadau a nodir yn Erthygl 15 (dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth) rhaid iddo gyflwyno i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid hysbysiad yn unol â pharagraff (2).

(2Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1)—

(a)pennu dyddiad gweithredol yr hysbysiad;

(b)datgan bod y cofrestriad neu’r gymeradwyaeth, yn ôl y digwydd, wedi ei ddirymu neu ei dirymu;

(c)pennu â pha weithgaredd neu weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid y mae’r dirymiad yn ymwneud;

(d)nodi pa un neu ragor o’r amodau dirymu a nodir yn Erthygl 15 sy’n gymwys;

(e)darparu gwybodaeth am y terfynau amser ar gyfer apelio o dan reoliad 12.

(3Pan fo awdurdod gorfodi wedi dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod gorfodi—

(a)gwneud y diwygiadau priodol i’w gofrestr ei hun o sefydliadau busnes bwyd anifeiliaid; a

(b)trosglwyddo’r wybodaeth angenrheidiol yn brydlon i’r Asiantaeth er mwyn sicrhau y cydymffurfir ag Erthygl 19(3) (diweddaru rhestrau cenedlaethol).

Ffurf y cais ar gyfer diwygio cofrestriad neu gymeradwyaeth

11.  Pan fo gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn dymuno gwneud cais am ddiwygio cofrestriad neu gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 16 (diwygiadau i gofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad), rhaid gwneud cais i’r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir y sefydliad busnes bwyd anifeiliaid perthnasol ynddi, sydd—

(a)wedi ei lofnodi gan neu ar ran yr ymgeisydd;

(b)yn cynnwys enw neu enw busnes a chyfeiriad yr ymgeisydd ac, os yw’n wahanol, cyfeiriad y sefydliad;

(c)yn nodi’r gweithgareddau y mae’r cais am ddiwygiadau yn ymwneud â hwy;

(d)wedi ei gyfeirio’n gywir at yr awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r sefydliad y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Hawliau apelio mewn cysylltiad â chofrestru neu gymeradwyo

12.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad a wnaed gan awdurdod gorfodi mewn cysylltiad ag—

(a)cymeradwyo sefydliad o dan Erthygl 13;

(b)atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 14;

(c)dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 15; neu

(d)diwygio cymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 16,

apelio i lys ynadon.

(2Bydd y weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf cwyn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i’r achos.

(3Y cyfnod pan ganiateir dwyn apêl o dan baragraff (1) yw un mis o’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o’r penderfyniad i’r person sy’n dymuno apelio, ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud cwyn am orchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.

(4Pan fo llys ynadon, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), yn penderfynu bod penderfyniad yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i’r awdurdod roi effaith i benderfyniad y llys.

(5Pan fo cofrestriad wedi ei atal dros dro neu ei ddirymu, neu gymeradwyaeth wedi ei hatal dros dro neu ei dirymu, caiff y gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid a fu’n gweithredu’r sefydliad dan sylw yn union cyn y cyfryw ataliad dros dro neu ddirymiad, barhau i’w weithredu, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan yr awdurdod gorfodi er diogelwch iechyd y cyhoedd, oni bai—

(a)bod y terfyn amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad i atal dros dro neu ddirymu’r cofrestriad neu gymeradwyaeth wedi dod i ben, heb i apêl gael ei chyflwyno; neu

(b)pan ddygwyd apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw, bod yr apêl wedi ei phenderfynu’n derfynol neu y rhoddwyd y gorau iddi.

(6Nid oes dim ym mharagraff (5) sy’n caniatáu i sefydliad busnes bwyd anifeiliaid gael ei weithredu os gosodwyd gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid, hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid neu orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid mewn perthynas â’r sefydliad hwnnw.

Ffioedd am gymeradwyo neu am ddiwygio cymeradwyaeth

13.—(1Rhaid i weithredwr busnes bwyd anifeiliaid sy’n gwneud cais i awdurdod gorfodi am gymeradwyaeth neu am ddiwygio cymeradwyaeth—

(a)talu’r ffi berthnasol wrth gyflwyno’r cais; a

(b)os gofynnir iddo, ad-dalu i’r awdurdod gorfodi y costau a dynnir gan yr awdurdod am unrhyw waith dadansoddi gan labordy mewn cysylltiad â’r cais.

(2Mewn perthynas ag unrhyw gais o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff (1), a gyflwynir i’r awdurdod gorfodi, nid oes rhaid i’r awdurdod gorfodi—

(a)cymryd unrhyw gamau i gymeradwyo sefydliad mewn cysylltiad ag un neu ragor o’i weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid hyd nes bo’r ffi berthnasol wedi ei thalu iddo; nac ychwaith

(b)cymeradwyo sefydliad mewn cysylltiad ag un neu fwy o’i weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid hyd nes bo wedi cael ad-daliad yn unol â pharagraff (1)(b).

(3Pan fo’r sefydliad, y ceisir cymeradwyaeth neu ddiwygio cymeradwyaeth mewn perthynas ag ef, yn sefydliad lle y caniateir cynnal mwy nag un gweithgaredd busnes bwyd anifeiliaid y mae cymeradwyaeth yn ofynnol amdano, bydd gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn atebol i dalu ffi berthnasol sengl, sef y fwyaf o’r ffioedd a fyddai fel arall yn daladwy.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “ffi berthnasol” (“relevant fee”) yw’r ffi briodol a bennir yn Atodlen 3.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources