Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Mawrth 2016.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

4

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff ond nid person sydd wedi ei benodi i gorff gan Weinidogion Cymru, un o Weinidogion y Goron neu gan Gynghorau Sir neu Gynghorau Bwrdeistref Sirol yng Nghymru2 (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);

  • ystyr “corff” (“body”) yw person a restrir yn Atodlen 6;

  • ystyr “unigolyn” (“individual”) yw aelod o’r cyhoedd.

5

Yn y Rheoliadau hyn—

a

mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;

b

yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.

6

Nid oes dim byd yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd a gyflawnir ganddo neu wasanaeth a ddarperir ganddo pan fo’n cyflawni’r gweithgaredd hwnnw neu’n darparu’r gwasanaeth hwnnw ar ran trydydd parti o dan drefniadau a wneir rhyngddo ef a’r trydydd parti.