Safonau sy’n benodol gymwys3
1
Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r personau a restrir yn Atodlen 6 sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau a bennir o dan reoliad 2 ac Atodlenni 1 i 5.
2
Ond nid awdurdodir y Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i Dribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru, Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru a Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â’r safonau a ganlyn—
i
92 i 139,
ii
144 i 148,
iii
161 i 166.