ATODLEN 4Safonau Cadw Cofnodion
RHAN 1Y SAFONAU
1 | Safonau ynghylch cadw cofnodion gan gorff |
Safon 140: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau. |
Safon 141: | Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
Safon 142: | Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg (pa un a yw’r gŵyn yn ymwneud â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio). |
Safon 143: | Rhaid ichi gadw cofnod o’r camau yr ydych wedi eu cymryd i sicrhau y cydymffurfir â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
Safon 144: | Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau iaith Gymraeg eich cyflogeion a wnaed gennych yn unol â safon 121), o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny. |
Safon 145: | Rhaid ichi gadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o—
|
Safon 146: | Rhaid ichi gadw cofnod o nifer yr aelodau o staff sy’n gwisgo bathodyn (a roddir ar gael iddynt yn unol â safon 130) ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. |
Safon 147: | Rhaid ichi gadw cofnod o bob asesiad a gynhaliwch (yn unol â safon 131) mewn cysylltiad â’r sgiliau Cymraeg y gallai fod eu hangen mewn perthynas â swydd newydd neu swydd wag. |
Safon 148: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 131) fel swyddi sy’n gofyn—
|