24 | Gweithdrefnau cwyno |
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff— (a)cydymffurfio â hwy mewn un weithdrefn gwyno; (b)diwygio gweithdrefn gwyno sy’n bodoli eisoes. (2) Y safonau yw— (a)safon 153; (b)safon 159; (c)safon 165. | |
25 | Trefniadau goruchwylio |
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy un set o drefniadau goruchwylio. (2) Y safonau yw— (a)safon 154; (b)safon 160; (c)safon 166. | |
26 | Adroddiadau blynyddol |
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy gynnwys yr wybodaeth angenrheidiol mewn un adroddiad blynyddol o’r enw “Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg”. (2) Y safonau yw— (a)safon 155; (b)safon 161; (c)safon 167. | |
27 | Rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae corff yn bwriadu cydymffurfio â safonau |
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy mewn un ddogfen. (2) Y safonau yw— (a)safon 156; (b)safon 162; (c)safon 168. |