Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 (p. 12)LL+C

142.  Yn adran 1 o Ddeddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 (asesu gallu gofalwyr i ddarparu gofal: Cymru a Lloegr)—LL+C

(a)yn is-adran (1)(a)(1)

(i)ar ôl “local authority”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “in England”;

(ii)yn is-baragraff (i), hepgorer “in the case of a local authority in England,”;

(iii)hepgorer is-baragraff (ii) a’r gair “or” yn union o flaen hynny;

(b)yn is-adran (2)(a), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;

(c)yn is-adran (3A)(2), hepgorer “In the case of a local authority in England,”;

(d)hepgorer is-adran (5);

(e)yn is-adran (6)—

(i)hepgorer y diffiniadau o “community care services” a “disabled person”;

(ii)yn lle’r diffiniad o “local authority” rhodder—

“local authority” means a county council, a district council for an area in England for which there is no county council, a London borough council or the Common Council of the City of London;.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 142 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 2(1)

(1)

Diwygiwyd adran 1(1)(a) gan baragraff 56(1), (2)(a) a (b) o’r Atodlen i O.S. 2015/914.

(2)

Mewnosodwyd adran 1(3A) gan baragraff 56(1) a (4) o’r Atodlen i O.S. 2015/914.