xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
215. Mae Deddf Plant 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
216. Yn adran 9(4)(a)(1) (swyddogaethau’r Comisiynydd mewn perthynas â phobl ifanc penodol) yn lle “Children Act 1989” rhodder “Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.
217. Yn adran 25(10)(b) (cydweithredu i wella llesiant: Cymru) yn lle is-baragraff (i) rhodder—
“(i)services under sections 105 to 118 and 176 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014; or”.
218. Hepgorer adrannau 31 i 34 (Byrddau Lleol Diogelu Plant yng Nghymru).
219. Yn adran 49 (taliadau i rieni maeth)—
(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl y geiriau “Children Act 1989” mewnosoder “or section 81 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”;
(b)yn is-adran (1)(b) yn lle “that Act” rhodder “the Children Act 1989”;
(c)yn is-adran (2) hepgorer y diffiniad o “local authority foster parent” a “voluntary organisation”;
(d)yn is-adran (2) ar ôl y diffiniad o “appropriate person” mewnosoder—
““local authority foster parent” has the same meaning as in section 105(1) of the Children Act 1989;
“voluntary organisation” has the same meaning as in the Children Act 1989.”
220. Yn adran 50A(2) (ymyrryd – Cymru)—
(a)yn is-adran (2) hepgorer paragraffau (a) a (b);
(b)yn is-adran (4) hepgorer y diffiniad o “social services functions”.
221. Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 2(2)(b).
Amnewidiwyd adran 9 gan baragraff 6(1) o Atodlen 5 i Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6).
Mewnosodwyd adran 50A gan baragraff 7(1) a (3) o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1).