297. Yn adran 53 (taliadau uniongyrchol: darpariaeth bellach)—LL+C
(a)hepgorer is-adran (11) o’r testun Saesneg(1);
(b)ar ôl is-adran (10) mewnosoder y canlynol—
“(11) Mae’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cynnwys drwy wneud taliadau uniongyrchol; ac at y diben hwnnw mae Atodlen A1 (sy’n cynnwys addasiadau i adrannau 50 a 51 a’r adran hon) yn cael effaith.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 297 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 2(1)
(1)
Mae adran 53(11) wedi ei mewnosod gan adran 75(8) o Ddeddf Gofal 2014 (p. 23) ac fe’i deddfwyd yn Saesneg yn unig.