Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016

312.  Ar ôl adran 164 (dyletswydd i gydweithredu a darparu gwybodaeth wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) mewnosoder—LL+C

Dyletswydd personau eraill i gydweithredu a darparu gwybodaeth

164A.(1) Os yw awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (4) wrth arfer ei swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(2) Os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) ddarparu gwybodaeth iddo y mae ei hangen arno er mwyn arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(3) Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) neu (2) roi i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.

(4) Y personau yw—

(a)awdurdod lleol yn Lloegr;

(b)awdurdod tai lleol yn Lloegr;

(c)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

(d)unrhyw grŵp comisiynu clinigol, Awdurdod Iechyd Arbennig, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, neu ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(e)unrhyw bersonau eraill—

(i)a bennir gan reoliadau, neu

(ii)o ddisgrifiad a bennir gan reoliadau.

(5) Y swyddogaethau yw—

(a)swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cynnal gwarcheidiaeth arbennig);

(b)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â diogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc, yn benodol y rhai hynny y mae arnynt anghenion gofal a chymorth, a’u teuluoedd ac eraill;

(c)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya;

(d)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â phobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115.

(6) Ni chaniateir i reoliadau o dan is-adran (4)(e) bennu’r personau a ganlyn heb gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol—

(a)un o Weinidogion y Goron, na

(b)llywodraethwr carchar neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan neu ganolfan hyfforddi ddiogel sydd wedi ei chontractio allan, y cyfarwyddwr).

(7) Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod tai lleol” yw awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” yn Neddf Tai 1985.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 312 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 2(1)