Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2016.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cludfwyd” (“takeaway food”) yw bwyd sydd wedi ei baratoi yn unol ag archeb benodol defnyddwyr ar gyfer ei ddanfon neu ei gasglu i’w fwyta oddi ar y fangre;

    ystyr “deunyddiau cyhoeddusrwydd” (“publicity materials”) yw unrhyw ddeunydd printiedig sy’n hyrwyddo’r cludfwyd a ddarperir gan sefydliad y gweithredwr ac sy’n cynnwys prisiau’r bwyd a ddarperir ynghyd â disgrifiad o sut y caiff defnyddiwr, sy’n unigolyn y cyflenwir bwyd iddo ac eithrio yng nghwrs busnes a gynhelir ganddo, archebu ac eithrio archebu’n bersonol;

    ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013;

    ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw sefydliad busnes bwyd; ac

    ystyr “sgôr” (“rating”) yw sgôr hylendid bwyd a roddir o dan y Ddeddf.

Sefydliadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau sy’n cyflenwi cludfwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.

Y gofyniad i hyrwyddo sgôr hylendid bwyd3

1

Rhaid i weithredwr sefydliad sicrhau bod ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd yn arddangos y datganiad a ganlyn—

“Ewch i food.gov.uk/ratings i ganfod sgôr hylendid bwyd ein busnes neu gofynnwch inni beth yw ein sgôr hylendid bwyd wrth archebu. / Go to food.gov.uk/ratings to find out the food hygiene rating of our business or ask us for our food hygiene rating when you order”.

2

Rhaid i’r datganiad gael ei roi mewn lle amlwg ar y deunyddiau cyhoeddusrwydd fel bod defnyddwyr yn gallu ei weld yn hawdd.

3

Rhaid i’r datganiad gydymffurfio â’r manylebau a ganlyn—

a

maint teip sy’n 9 pwynt o leiaf fel y’i mesurir mewn ffont ‘Times New Roman’ nad yw wedi ei gulhau; a

b

bwlch rhwng llinellau testun sy’n 3mm o leiaf.

Arddangos sgôr hylendid bwyd4

1

Pan fo deunyddiau cyhoeddusrwydd yn cydymffurfio â rheoliad 3, caiff gweithredwr hefyd ddewis arddangos sgôr y sefydliad ar ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd.

2

Rhaid i ddeunyddiau cyhoeddusrwydd sy’n arddangos y sgôr—

a

arddangos sgôr ddilys;

b

rhoi’r sgôr mewn lle amlwg ar y deunyddiau cyhoeddusrwydd fel bod defnyddwyr yn gallu ei gweld yn hawdd;

c

arddangos y sgôr mewn ffordd sy’n ei gwneud yn glir i ba sefydliad y mae’n berthnasol os yw’r deunyddiau cyhoeddusrwydd yn hyrwyddo cludfwyd mwy nag un sefydliad; a

d

cydymffurfio ag Atodlen 1.

Troseddau5

Mae gweithredwr sefydliad yn cyflawni trosedd os yw, heb esgus rhesymol—

a

yn methu â chydymffurfio â gofynion rheoliad 3; a

b

yn methu â chydymffurfio â gofyniad rheoliad 4(2).

Troseddau gan gyrff corfforaethol6

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo trosedd o dan reoliad 5 yn cael ei chyflawni gan gorff corfforaethol.

2

Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

a

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu

b

unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath;

bydd y cyfarwyddwr hwnnw, y rheolwr hwnnw, yr ysgrifennydd hwnnw neu’r person hwnnw sy’n honni ei fod yn gweithredu fel y cyfryw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

3

Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—

a

at unrhyw swyddog cyffelyb y corff; neu

b

pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

Gorfodi7

Caiff awdurdod bwyd orfodi’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliadau 3 a 4(2) ar sefydliadau yn ei ardal.

Pŵer mynediad8

1

Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, ar ôl dangos ei awdurdod ysgrifenedig os caiff ei erchi i wneud hynny, fynd i mewn ar bob adeg resymol i sefydliad at ddibenion gorfodi’r gofynion yn rheoliadau 3 a 4(2).

2

Ond yn achos mynediad i unrhyw ran o sefydliad a ddefnyddir fel annedd breifat yn unig, rhaid rhoi 24 awr o rybudd o’r bwriad i fynd i mewn iddo i’r gweithredwr.

3

Caiff swyddog awdurdodedig ymafael mewn unrhyw ddogfen y mae ganddo sail resymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â rheoliadau 3 a 4(2) a’i symud oddi yno.

Cosbau9

Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 5 yn atebol ar euogfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Cosbau penodedig10

1

Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 5, caiff y swyddog roi hysbysiad i’r person sy’n cynnig y cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.

2

Pan fo hysbysiad wedi ei roi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

a

ni chaniateir i unrhyw achos gael ei gychwyn am y drosedd cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad; a

b

ni chaniateir i’r person gael ei euogfarnu o’r drosedd os yw’n talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

3

Mae Atodlen 2 (hysbysiadau cosb benodedig) yn cael effaith.

Derbyniadau cosb benodedig11

Rhaid i awdurdod bwyd ddefnyddio’r symiau a delir iddo o dan hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddir o dan reoliad 10 at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi hylendid bwyd yng Nghymru.

Cyfrifoldeb awdurdodau bwyd i anfon gwybodaeth at weithredwyr12

Rhaid i awdurdod bwyd anfon datganiad sy’n tynnu sylw gweithredwyr sefydliadau yn ei ardal at ofynion y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 15(1) o’r Ddeddf (pwerau a chyfrifoldebau eraill awdurdodau bwyd).

Vaughan GethingY Dirprwy Weinidog Iechyd, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru