Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cludfwyd” (“takeaway food”) yw bwyd sydd wedi ei baratoi yn unol ag archeb benodol defnyddwyr ar gyfer ei ddanfon neu ei gasglu i’w fwyta oddi ar y fangre;

ystyr “deunyddiau cyhoeddusrwydd” (“publicity materials”) yw unrhyw ddeunydd printiedig sy’n hyrwyddo’r cludfwyd a ddarperir gan sefydliad y gweithredwr ac sy’n cynnwys prisiau’r bwyd a ddarperir ynghyd â disgrifiad o sut y caiff defnyddiwr, sy’n unigolyn y cyflenwir bwyd iddo ac eithrio yng nghwrs busnes a gynhelir ganddo, archebu ac eithrio archebu’n bersonol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013;

ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw sefydliad busnes bwyd; ac

ystyr “sgôr” (“rating”) yw sgôr hylendid bwyd a roddir o dan y Ddeddf.

Sefydliadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau sy’n cyflenwi cludfwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.

Y gofyniad i hyrwyddo sgôr hylendid bwyd

3.—(1Rhaid i weithredwr sefydliad sicrhau bod ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd yn arddangos y datganiad a ganlyn—

“Ewch i food.gov.uk/ratings i ganfod sgôr hylendid bwyd ein busnes neu gofynnwch inni beth yw ein sgôr hylendid bwyd wrth archebu. / Go to food.gov.uk/ratings to find out the food hygiene rating of our business or ask us for our food hygiene rating when you order”.

(2Rhaid i’r datganiad gael ei roi mewn lle amlwg ar y deunyddiau cyhoeddusrwydd fel bod defnyddwyr yn gallu ei weld yn hawdd.

(3Rhaid i’r datganiad gydymffurfio â’r manylebau a ganlyn—

(a)maint teip sy’n 9 pwynt o leiaf fel y’i mesurir mewn ffont ‘Times New Roman’ nad yw wedi ei gulhau; a

(b)bwlch rhwng llinellau testun sy’n 3mm o leiaf.

Arddangos sgôr hylendid bwyd

4.—(1Pan fo deunyddiau cyhoeddusrwydd yn cydymffurfio â rheoliad 3, caiff gweithredwr hefyd ddewis arddangos sgôr y sefydliad ar ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd.

(2Rhaid i ddeunyddiau cyhoeddusrwydd sy’n arddangos y sgôr—

(a)arddangos sgôr ddilys;

(b)rhoi’r sgôr mewn lle amlwg ar y deunyddiau cyhoeddusrwydd fel bod defnyddwyr yn gallu ei gweld yn hawdd;

(c)arddangos y sgôr mewn ffordd sy’n ei gwneud yn glir i ba sefydliad y mae’n berthnasol os yw’r deunyddiau cyhoeddusrwydd yn hyrwyddo cludfwyd mwy nag un sefydliad; a

(d)cydymffurfio ag Atodlen 1.

Troseddau

5.  Mae gweithredwr sefydliad yn cyflawni trosedd os yw, heb esgus rhesymol—

(a)yn methu â chydymffurfio â gofynion rheoliad 3; a

(b)yn methu â chydymffurfio â gofyniad rheoliad 4(2).

Troseddau gan gyrff corfforaethol

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo trosedd o dan reoliad 5 yn cael ei chyflawni gan gorff corfforaethol.

(2Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath;

bydd y cyfarwyddwr hwnnw, y rheolwr hwnnw, yr ysgrifennydd hwnnw neu’r person hwnnw sy’n honni ei fod yn gweithredu fel y cyfryw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(3Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at unrhyw swyddog cyffelyb y corff; neu

(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

Gorfodi

7.  Caiff awdurdod bwyd orfodi’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliadau 3 a 4(2) ar sefydliadau yn ei ardal.

Pŵer mynediad

8.—(1Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, ar ôl dangos ei awdurdod ysgrifenedig os caiff ei erchi i wneud hynny, fynd i mewn ar bob adeg resymol i sefydliad at ddibenion gorfodi’r gofynion yn rheoliadau 3 a 4(2).

(2Ond yn achos mynediad i unrhyw ran o sefydliad a ddefnyddir fel annedd breifat yn unig, rhaid rhoi 24 awr o rybudd o’r bwriad i fynd i mewn iddo i’r gweithredwr.

(3Caiff swyddog awdurdodedig ymafael mewn unrhyw ddogfen y mae ganddo sail resymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â rheoliadau 3 a 4(2) a’i symud oddi yno.

Cosbau

9.  Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 5 yn atebol ar euogfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Cosbau penodedig

10.—(1Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 5, caiff y swyddog roi hysbysiad i’r person sy’n cynnig y cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.

(2Pan fo hysbysiad wedi ei roi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir i unrhyw achos gael ei gychwyn am y drosedd cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad; a

(b)ni chaniateir i’r person gael ei euogfarnu o’r drosedd os yw’n talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(3Mae Atodlen 2 (hysbysiadau cosb benodedig) yn cael effaith.

Derbyniadau cosb benodedig

11.  Rhaid i awdurdod bwyd ddefnyddio’r symiau a delir iddo o dan hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddir o dan reoliad 10 at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi hylendid bwyd yng Nghymru.

Cyfrifoldeb awdurdodau bwyd i anfon gwybodaeth at weithredwyr

12.  Rhaid i awdurdod bwyd anfon datganiad sy’n tynnu sylw gweithredwyr sefydliadau yn ei ardal at ofynion y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 15(1) o’r Ddeddf (pwerau a chyfrifoldebau eraill awdurdodau bwyd).

Vaughan Gething

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Mawrth 2016