xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rhagolygol
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â hyrwyddo sgoriau hylendid bwyd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau sy’n cyflenwi cludfwyd (bwyd tecawê).
Mae rheoliad 3 yn nodi’r hyn y mae rhaid i weithredwyr bwyd ei wneud er mwyn hyrwyddo eu sgôr hylendid bwyd ac mae’n darparu ar gyfer yr hyn y mae rhaid ei arddangos ar eu deunyddiau cyhoeddusrwydd printiedig.
Mae rheoliad 4 yn darparu, pan fo gweithredwyr bwyd yn dewis arddangos sgôr hylendid bwyd ar eu deunyddiau cyhoeddusrwydd printiedig yn ogystal â’r datganiad y mae’n ofynnol iddynt ei arddangos, fod rhaid i’r sgôr honno gydymffurfio â gofynion rheoliad 4(2) ac Atodlen 1.
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn drosedd i weithredwr sefydliad busnes bwyd fethu â chydymffurfio â gofynion rheoliadau 3 a 4(2).
Mae rheoliad 6 yn darparu, pan fo corff corfforaethol (megis cwmni, neu unrhyw gorff arall a gorfforir drwy statud) yn cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau, y bydd cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff hwnnw (neu unrhyw un sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath) hefyd yn euog o drosedd o dan amgylchiadau pan ddyfernir ei fod yn bersonol feius.
Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff awdurdodau bwyd orfodi’r Rheoliadau hyn ac mae rheoliad 8 yn darparu pŵer mynediad ac ymafael mewn dogfennau i swyddogion awdurdodedig awdurdodau bwyd er mwyn iddynt orfodi’r Rheoliadau.
Mae rheoliad 9 yn darparu bod trosedd o dan y Rheoliadau yn drosedd y gellir ei rhoi ar brawf yn y Llys Ynadon a’i chosbi drwy ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Mae rheoliad 10 yn galluogi swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd ddyroddi hysbysiad cosb benodedig (HCB) i berson y mae ganddo reswm dros gredu ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau. Caiff swyddog awdurdodedig gynnig y cyfle i’r person hwnnw fodloni unrhyw atebolrwydd i euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig. Os na thelir y gosb benodedig, mae’r awdurdod bwyd yn cadw’r pŵer i erlyn. Mae’r rheoliad hwn hefyd yn cyflwyno Atodlen 2.
Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer hysbysiadau cosb benodedig a lefel y cosbau penodedig sy’n daladwy mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â ffurf a chynnwys hysbysiadau cosb benodedig.
Mae rheoliad 11 yn darparu bod rhaid i awdurdodau bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau cosb am orfodi hylendid bwyd yng Nghymru.
Mae rheoliad 12 yn rhagnodi’r wybodaeth y mae rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon at weithredwr sefydliad busnes bwyd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddrafft o’r Rheoliadau yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t. 37) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 98/48/EC (OJ Rhif L217, 05.08.1998, t. 18).