2016 Rhif 429 (Cy. 138)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 10(1)(a), (2)(b), (3)(a) a (b) ac (c), a 15(1) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 20131.

Yn unol ag adran 26(4) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongliI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2016.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cludfwyd” (“takeaway food”) yw bwyd sydd wedi ei baratoi yn unol ag archeb benodol defnyddwyr ar gyfer ei ddanfon neu ei gasglu i’w fwyta oddi ar y fangre;

    ystyr “deunyddiau cyhoeddusrwydd” (“publicity materials”) yw unrhyw ddeunydd printiedig sy’n hyrwyddo’r cludfwyd a ddarperir gan sefydliad y gweithredwr ac sy’n cynnwys prisiau’r bwyd a ddarperir ynghyd â disgrifiad o sut y caiff defnyddiwr, sy’n unigolyn y cyflenwir bwyd iddo ac eithrio yng nghwrs busnes a gynhelir ganddo, archebu ac eithrio archebu’n bersonol;

    ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013;

    ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw sefydliad busnes bwyd; ac

    ystyr “sgôr” (“rating”) yw sgôr hylendid bwyd a roddir o dan y Ddeddf.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Sefydliadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddyntI22

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau sy’n cyflenwi cludfwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Y gofyniad i hyrwyddo sgôr hylendid bwydI33

1

Rhaid i weithredwr sefydliad sicrhau bod ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd yn arddangos y datganiad a ganlyn—

“Ewch i food.gov.uk/ratings i ganfod sgôr hylendid bwyd ein busnes neu gofynnwch inni beth yw ein sgôr hylendid bwyd wrth archebu. / Go to food.gov.uk/ratings to find out the food hygiene rating of our business or ask us for our food hygiene rating when you order”.

2

Rhaid i’r datganiad gael ei roi mewn lle amlwg ar y deunyddiau cyhoeddusrwydd fel bod defnyddwyr yn gallu ei weld yn hawdd.

3

Rhaid i’r datganiad gydymffurfio â’r manylebau a ganlyn—

a

maint teip sy’n 9 pwynt o leiaf fel y’i mesurir mewn ffont ‘Times New Roman’ nad yw wedi ei gulhau; a

b

bwlch rhwng llinellau testun sy’n 3mm o leiaf.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Arddangos sgôr hylendid bwydI44

1

Pan fo deunyddiau cyhoeddusrwydd yn cydymffurfio â rheoliad 3, caiff gweithredwr hefyd ddewis arddangos sgôr y sefydliad ar ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd.

2

Rhaid i ddeunyddiau cyhoeddusrwydd sy’n arddangos y sgôr—

a

arddangos sgôr ddilys;

b

rhoi’r sgôr mewn lle amlwg ar y deunyddiau cyhoeddusrwydd fel bod defnyddwyr yn gallu ei gweld yn hawdd;

c

arddangos y sgôr mewn ffordd sy’n ei gwneud yn glir i ba sefydliad y mae’n berthnasol os yw’r deunyddiau cyhoeddusrwydd yn hyrwyddo cludfwyd mwy nag un sefydliad; a

d

cydymffurfio ag Atodlen 1.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

TroseddauI55

Mae gweithredwr sefydliad yn cyflawni trosedd os yw, heb esgus rhesymol—

a

yn methu â chydymffurfio â gofynion rheoliad 3; a

b

yn methu â chydymffurfio â gofyniad rheoliad 4(2).

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Troseddau gan gyrff corfforaetholI66

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo trosedd o dan reoliad 5 yn cael ei chyflawni gan gorff corfforaethol.

2

Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

a

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu

b

unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath;

bydd y cyfarwyddwr hwnnw, y rheolwr hwnnw, yr ysgrifennydd hwnnw neu’r person hwnnw sy’n honni ei fod yn gweithredu fel y cyfryw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

3

Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—

a

at unrhyw swyddog cyffelyb y corff; neu

b

pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

GorfodiI77

Caiff awdurdod bwyd orfodi’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliadau 3 a 4(2) ar sefydliadau yn ei ardal.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Pŵer mynediadI88

1

Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, ar ôl dangos ei awdurdod ysgrifenedig os caiff ei erchi i wneud hynny, fynd i mewn ar bob adeg resymol i sefydliad at ddibenion gorfodi’r gofynion yn rheoliadau 3 a 4(2).

2

Ond yn achos mynediad i unrhyw ran o sefydliad a ddefnyddir fel annedd breifat yn unig, rhaid rhoi 24 awr o rybudd o’r bwriad i fynd i mewn iddo i’r gweithredwr.

3

Caiff swyddog awdurdodedig ymafael mewn unrhyw ddogfen y mae ganddo sail resymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â rheoliadau 3 a 4(2) a’i symud oddi yno.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

CosbauI99

Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 5 yn atebol ar euogfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Cosbau penodedigI1010

1

Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 5, caiff y swyddog roi hysbysiad i’r person sy’n cynnig y cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.

2

Pan fo hysbysiad wedi ei roi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

a

ni chaniateir i unrhyw achos gael ei gychwyn am y drosedd cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad; a

b

ni chaniateir i’r person gael ei euogfarnu o’r drosedd os yw’n talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

3

Mae Atodlen 2 (hysbysiadau cosb benodedig) yn cael effaith.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Derbyniadau cosb benodedigI1111

Rhaid i awdurdod bwyd ddefnyddio’r symiau a delir iddo o dan hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddir o dan reoliad 10 at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi hylendid bwyd yng Nghymru.

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 11 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Cyfrifoldeb awdurdodau bwyd i anfon gwybodaeth at weithredwyrI1212

Rhaid i awdurdod bwyd anfon datganiad sy’n tynnu sylw gweithredwyr sefydliadau yn ei ardal at ofynion y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 15(1) o’r Ddeddf (pwerau a chyfrifoldebau eraill awdurdodau bwyd).

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 12 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Vaughan GethingY Dirprwy Weinidog Iechyd, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1SGÔR HYLENDID BWYD

Rheoliad 4

I131

Rhaid arddangos sgôr ddilys ar un o’r ffurfiau a ddangosir isod.

Image_r00001

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

I142

Y ffurf briodol ar gyfer sefydliad yw pa ffurf bynnag a ddangosir ym mharagraff 1 sy’n arddangos y sgôr gyfredol ar gyfer y sefydliad hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

I153

Rhaid i’r sgôr gydymffurfio â’r manylebau a ganlyn—

a

cyfeirnodau lliw: Green: c43 m0 y100 k0 & Black;

b

rhaid i ddimensiynau’r sgoriau fod yn 39mm (lled) x 27mm (uchder) o leiaf.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 2HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

Rheoliad 10

RHAN 1Y WEITHDREFN AR GYFER HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

I161

Caiff hysbysiad cosb benodedig gynnig y cyfle i berson dalu cosb o £200 (“y gosb”) o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

I172

Caiff hysbysiad cosb benodedig hefyd gynnig y cyfle i berson dalu cosb is o £150 (“y gosb ostyngol”) os telir o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

I183

Caniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu drwy bostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb at y person a ddisgrifir ar yr hysbysiad yn y cyfeiriad a ddisgrifir felly. Bernir bod y taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddai’r llythyr wedi cael ei ddosbarthu yn nhrefn arferol y post.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

I194

Nid yw paragraff 3 yn atal y gosb rhag cael ei thalu drwy unrhyw ddull arall.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

I205

Os yw awdurdod bwyd o’r farn na ddylai hysbysiad cosb benodedig fod wedi ei roi i berson gan swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod bwyd, rhaid i’r awdurdod bwyd roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

I216

Os caiff hysbysiad cosb benodedig ei dynnu’n ôl—

a

rhaid i awdurdod bwyd ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a

b

ni chaniateir dwyn unrhyw achos na pharhau ag unrhyw achos yn erbyn y person a gafodd yr hysbysiad ar gyfer y drosedd o dan sylw.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

I227

Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

a

sy’n cymryd arni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran prif swyddog cyllid awdurdod bwyd, a

b

sy’n datgan bod taliad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatganwyd.

Annotations:
Commencement Information
I22

Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2FFURF A CHYNNWYS HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

I238

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig roi’r manylion am yr amgylchiad yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd, sy’n angenrheidiol i esbonio pam mae trosedd wedi digwydd.

Annotations:
Commencement Information
I23

Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

I249

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig ddatgan hefyd—

a

enw a chyfeiriad yr awdurdod yr oedd y swyddog awdurdodedig yn gweithredu ar ei ran pan roddodd y swyddog yr hysbysiad;

b

swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

c

swm y gosb ostyngol a’r cyfnod y mae’r gostyngiad yn gymwys iddo;

d

canlyniadau peidio â thalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

e

y person y caniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu;

f

drwy ba ddull y caniateir talu;

g

y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir eu cyflwyno.

Annotations:
Commencement Information
I24

Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

I2510

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—

a

hysbysu’r person y mae wedi ei roi iddo am ei hawl i sefyll prawf am y drosedd honedig, a

b

esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.

Annotations:
Commencement Information
I25

Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â hyrwyddo sgoriau hylendid bwyd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 2 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau sy’n cyflenwi cludfwyd (bwyd tecawê).

Mae rheoliad 3 yn nodi’r hyn y mae rhaid i weithredwyr bwyd ei wneud er mwyn hyrwyddo eu sgôr hylendid bwyd ac mae’n darparu ar gyfer yr hyn y mae rhaid ei arddangos ar eu deunyddiau cyhoeddusrwydd printiedig.

Mae rheoliad 4 yn darparu, pan fo gweithredwyr bwyd yn dewis arddangos sgôr hylendid bwyd ar eu deunyddiau cyhoeddusrwydd printiedig yn ogystal â’r datganiad y mae’n ofynnol iddynt ei arddangos, fod rhaid i’r sgôr honno gydymffurfio â gofynion rheoliad 4(2) ac Atodlen 1.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn drosedd i weithredwr sefydliad busnes bwyd fethu â chydymffurfio â gofynion rheoliadau 3 a 4(2).

Mae rheoliad 6 yn darparu, pan fo corff corfforaethol (megis cwmni, neu unrhyw gorff arall a gorfforir drwy statud) yn cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau, y bydd cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff hwnnw (neu unrhyw un sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath) hefyd yn euog o drosedd o dan amgylchiadau pan ddyfernir ei fod yn bersonol feius.

Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff awdurdodau bwyd orfodi’r Rheoliadau hyn ac mae rheoliad 8 yn darparu pŵer mynediad ac ymafael mewn dogfennau i swyddogion awdurdodedig awdurdodau bwyd er mwyn iddynt orfodi’r Rheoliadau.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod trosedd o dan y Rheoliadau yn drosedd y gellir ei rhoi ar brawf yn y Llys Ynadon a’i chosbi drwy ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Mae rheoliad 10 yn galluogi swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd ddyroddi hysbysiad cosb benodedig (HCB) i berson y mae ganddo reswm dros gredu ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau. Caiff swyddog awdurdodedig gynnig y cyfle i’r person hwnnw fodloni unrhyw atebolrwydd i euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig. Os na thelir y gosb benodedig, mae’r awdurdod bwyd yn cadw’r pŵer i erlyn. Mae’r rheoliad hwn hefyd yn cyflwyno Atodlen 2.

Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer hysbysiadau cosb benodedig a lefel y cosbau penodedig sy’n daladwy mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â ffurf a chynnwys hysbysiadau cosb benodedig.

Mae rheoliad 11 yn darparu bod rhaid i awdurdodau bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau cosb am orfodi hylendid bwyd yng Nghymru.

Mae rheoliad 12 yn rhagnodi’r wybodaeth y mae rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon at weithredwr sefydliad busnes bwyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddrafft o’r Rheoliadau yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t. 37) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 98/48/EC (OJ Rhif L217, 05.08.1998, t. 18).