- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13. Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)yn lle paragraff 23 rhodder—
“23. Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol â’r canlynol
(a)adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989;
(b)adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968;
(c)adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu
(d)adran 37, 38, 109, 110 neu 114 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond gan eithrio unrhyw daliadau uniongyrchol a wnaed o dan y Ddeddf honno.”;
(b)yn lle paragraff 24(1) rhodder—
“(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd pan fo’r taliad wedi ei wneud yn unol â’r canlynol—
(a)adran 23C o Ddeddf Plant 1989;
(b)adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu
(c)adran 110 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.”;
(c)yn lle paragraff 47 rhodder—
“47.—(1) Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.
(2) Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.”;
(d)yn lle paragraff 60 rhodder—
“60. Unrhyw daliad a wneir
(a)o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (taliadau uniongyrchol);
(b)fel taliad uniongyrchol fel y diffinnir “direct payment” yn adran 4(2) o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013;
(c)o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd);
(d)o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (taliadau uniongyrchol); neu
(e)o dan reoliadau a wnaed o dan adran 33 o Ddeddf Gofal 2014 (taliadau uniongyrchol).”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: